Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
11 Ionawr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
(5 munud)
(30 munud)
NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.
2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygoni'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.”
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.
'Datganiad: Parodrwydd ar gyfer y gaeaf'
‘Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17: Ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru)’
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol" ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.
4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 3, yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:
"Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn
gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym
mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o
barodrwydd ar gyfer y gaeaf."
Gwelliant
3.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Ym mhwynt 3, ar ôl "Byrddau Iechyd Cymru", rhoi "a
gwasanaethau gofal cymdeithasol".
(30 munud)
NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd.
2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn.
'Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi:
a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng;
b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59 y cant o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2 y cant o blant dros eu pwysau neu'n ordew; ac
c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2, yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 2.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol
â hynny:
Yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau'n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o'r fath yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac yn gresynu bod llywodraethau dilynol y DU wedi methu â defnyddio'r pwerau hyn i fynd i'r afael â gordewdra.
(60 munud)
NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.
2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;
b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;
c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;
d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac
e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau a), b), c) a d) a rhoi yn eu lle:
'a) manteisio i'r eithaf ar ffynonellau rhyngwladol o ran cyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion Cymru;
b) cefnogi mentrau cydweithredu sy'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff prifysgolion Cymru ymgysylltu â rhaglenni cyfnewid rhyngwladol;
c) archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu trefniadau dwyochrog â'r UE i fynd i'r afael â phryderon ynghylch statws gwladolion yr UE sy'n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru;
d) parhau i gynnig cyfleoedd i raddedigion rhyngwladol gael fisas ar ôl eu hastudiaethau i'w galluogi i weithio a sefydlu busnesau yn y DU;’
(60 munud)
NDM6197 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i ganfod ffeithiau a gweld drosto'i hun beth yw'r beichiau a'r costau rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE.
2. Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio.
3. Yn credu:
a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a
b) byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru.
4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn nwyddau i'r DU bob mis nag y mae'r DU yn ei allforio i'r UE.
5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â rheolaeth fewnfudo gadarn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu bwriad Prif Weinidog y DU i adeiladu perthynas rymus
newydd â'r Undeb Ewropeaidd, sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig
ac i Gymru.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd masnachu ag Ewrop a gweddill y byd, sy'n
hanfodol i ddyfodol economi Cymru.
3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau perthynas
fasnachu gref sy'n rhoi rhyddid i gwmnïau Prydain fasnachu a
gweithredu yn y Farchnad Sengl ac y dylai trefniadau cyfatebol gael
eu cynnig i fusnesau'r UE sy'n masnachu ac yn gweithredu yn y
DU.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2, yn cael
ei dad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy.
2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyffethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
(30 munud)
NDM6199 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Ionawr
2017